Gorwedda Parc Bute ar ben deheuol yr afon, ar ei lan ddwyreiniol, ac yng nghanol dinas Caerdydd. Ardal agored ydy hi sy’n mesur 150 acer. Mae Parc Bute, ynghyd a’r parc ar y lan gorllewinol, yn ymddwyn fel ‘ysgyfaint werdd’ i’r ddinas. Mor ffodus ydy Caerdydd i gael parc a choedwig mor agos at ganol y ddinas. 

Rhoddwyd y parc a Chastell Caerdydd i bobl Caerdydd gan bumed Marcwis Bute yn 1947, ac mae’r rhan o ben deheuol y parc a roddwyd i’r Eglwys Gatholig nawr yn cael ei brydlesu gan y ddinas.

Mae’r Parc wedi’i gofrestru yn Radd 1 gan Cadw ar ei gofrestr o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Mae’r parc yn cynnwys tri Safle o Bwysigrwydd i Gadwraeth Natur a thoreth o fywyd gwyllt diddorol ynghyd â phethau o ddiddordeb hanesyddol. Ynddo, mae heneb gofrestredig sef gweddillion Priordy y Brodyr Duon, a’i ysbeiliwyd gan Owain Glyndwr yn 1404, a’i ddymchwelwyd yn 1538 adeg Diddymiad y Mynachlogydd.

<img src="http://static1.squarespace.com/static/5650d499e4b0a376ef7b7ed2/5650d932e4b0991ab30dddd5/5651aea4e4b0530b6169a618/1448193777805/tumblr_inline_nlj5idVhl11tqyza6_500.jpg miliwn oddi wrth Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer adnewyddu’r parc yn 2009. Ynghyd â gwella ac ehangu’r cyfleusterau ar gyfer y cyhoedd, gan gynnwys creu canolfan addysg, defnyddiwyd y grant ar gyfer adnewyddu Priordy y Brodyr Duon ac i adfer Cafn y Felin sy’n rhedeg ar hyd wal gorllewinol y Castell. Cafn y Felin oedd lleoliad y diwydiannau cynnar yn y deuddegfed ganrif, a pharhaodd i weithio tan yn hwyr yn yr 1700au. Mae’r gwaith adfer ar fin dod i ben, ond datgladdwyd nifer o ddarganfyddiadau archeolegol diddorol. Caiff ymwelwyr eu croesawi yn ystafell de Pettigrew a leolir ym Mhorthdy’r Gorllewin. Adeilad cofrestredig ydyw â theils Fictoriaidd, a ddefnyddiwyd mewn adferiad cynharach o safle y Priordy, wedi eu gosod ar y llawr.

Enwyd yr ystafell de ar ôl Andrew Pettigrew, Prif Garddiwr y trydydd Marcwis Bute, a dirluniodd gerddi’r Castell yn yr 1870au.  Yn ei ysgrif goffa, dywedwyd:

‘….on a most uncompromising site Mr Pettigrew formed a pleasaunce of great beauty, and fully in keeping with the stately historic building that dominates it, but here it must suffice to say that its creation was a triumph of the landscapist’s art.’

Mae nifer o’r coed a blannwyd gan Pittigrew wedi goroesi hyd heddiw (coed Leim a Planwydden) ac maent nawr yn rhan o’r Goedardd. Crewyd y Goedardd gan Brif Swyddog Parciau’r Cyngor, Bill Nelmes, yn yr 1940au. Yn 2006, disgrifiwyd Parc Bute gan Gofrestr Coed yr Ynysoedd Prydeinig fel ‘… one of the most interesting and varied parks in the country.’. Erbyn heddiw mae rhyw 36 o goed gorau o’u math yn y DU yno. Dylid talu sylw arbennig i’r Hybrid Wingnut, a ystyriwyd tan yn ddiweddar fel yr un fwyaf ym Mhrydain; y goeden Foxglove, sy’n cynnig sioe arbennig wrth iddi flodeuo; a’r casgliad o goed ceirios Siapaniaidd. Yn yr hydref, talwch sylw i liwiau cyfoethog yr American Red Oaks a melynion y coed Ginko, un o’r rhywogaethau hynaf o goed yn y byd.

Ffurfiwyd Ffrindiau Parc Bute yn ddiweddar gan grwp o bobl sy’n frwd iawn am Barc Bute ac yn credu ei fod yn un o drysorau dinas Caerdydd. Maen nhw’n helpu i gadw Parc Bute yn arbennig gan weithio’n agos gyda’r Cyngor er mwyn cyfoethogi a diogeli’r parc, ei arddau, coed a’i ardaloedd gwyllt fel bod y cyhoedd yn gallu eu mwynhau. Maent yn gwneud hyn trwy:

– Gyfarfod â’r Cyngor yn aml er mwyn trafod cynlluniau cynhaliaeth ac adferiad.

– Gynnal cadwraeth, codi sbwriel, labeli coed a chael gwared ar blanhigion mewnlifol fel yr Himalayan Balsam.

– Drefnu teithiau cerdded, teithiau natur, gwylio adar ac arolygon bywyd gwyllt i ddangos i’r cyhoedd yr holl natur a hanes diddorol sydd yn y parc.

Er mwyn darganfod mwy, ewch i’w gwefan:

www.friendsofbutepark.com

. Os hoffech gysylltu, danfonwch e-bost at:  

friendsofbutepark@gmail.com

Ysgrifennwyd gan Mike Harper a chyfieithwyd gan Rebecca Spiller